Addysg Foesol
Beth yw gwerthoedd?
Egwyddorion sy’n gyrru ymddygiad ydy gwerthoedd. Maent yn dylanwadu ar ein hagweddau a’n gweithrediadau ac yn creu fframwaith i’n galluogi i fyw. Dylanwadant ar ein perthynas a’n hunain ag eraill.
Mae’r ystod eang o werthoedd dynol sy’n cael eu hannog mewn ysgolion yn cynnwys amynedd, parch, tegwch, goddefiant, trugaredd a chydweithrediad.
Dysgir y rhain drwy gyfuniad o ymarfer ac addysg, yn union fel reidio beic.
Mae disgyblion yn dysgu beth ydy gwerthoedd, sut I’w hadnabod, a sut y mae pobl yn ymateb iddynt ac felly yn datblygu sgiliau cymdeithasol gwerthfawr a challineb emosiynol.
Nid yw gwerthoedd yn...
Nid cwricwlwm ychwanegol ydy addysg gwerthoedd, nid yw’n rhywbeth y mae athrawon yn gorfod ychwanegu at agenda gorlawn. Mae’n ffordd o hwyluso addysgu’r agenda.
Nid yw’n ddatrysiad cyflym, byr dymor. Credir rhai bod gwerthoedd yn hael a diniwed. Maent ymhell o hynny, yn wir, maent union y gwrthwyneb. Dangosant ymwybyddiant glir o ymddygiad derbyniol, ac yn eu herbyn y mae ymddygiad staff a disgyblion yn cael ei fesur. Mae gwerthoedd yn lleihau’r opsiynau i ymddwyn y anaddas.
Nid yw’n ddisgwyliedig o’r disgyblion yn unig, Nid yw addysgu effeithlon o werthoedd yn cael ei fesur o allu’r disgyblion i’w diffinio ond yn hytrach o’u heffaith ar eu hymddygiad. Rhaid sicrhau modeli bositif o werthoedd gan staff i alluogi addysg gwerthoedd llwyddiannus. Mae amgylchfyd a yrrir gan werthoedd yr un mor berthnasol i ddisgyblion a staff.