Gwybodaeth
Mae’r ysgol hon yn:
- Cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Cynnig awyrgylch hapus, sy’n annog y plentyn i ddysgu.
- Rhoi pwyslais ar ddatblygiad y plentyn fel unigolyn ac ar lwyddiant academaidd a dysgedig.
- Anelu at safon uchel o gwrteisi, gwisg ac ymddygiad.
- Cynnig cyfleusterau ac adnoddau rhagorol.
- Cynnig llawer o weithgareddau allgyrsiol.
- Cynnig Clwb Brecwast pob dydd. (8.20 yb)
- Cynnig Clwb ar ôl Ysgol pob dydd. (3.05 - 5.30 yp)
LLEOLIAD
Adeiladwyd yr ysgol yn 1952. Saif ynghanol caeau chwarae ar ochr ddwyreiniol pentref Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Mae traffordd yr M4 (cyffordd 48) ond rhyw hanner milltir i ffwrdd.